2015 Rhif  1417 (Cy. 141)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio offerynnau statudol penodol yn ymwneud â gwastraff peryglus, sy’n cyfeirio at Reoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1820 (Cy. 148)) (“Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd”), neu ddeddfiadau’r Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud â gwastraff peryglus.

Mae angen y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn er mwyn

gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1357/2014 (OJ Rhif L 365, 19.12.14, t.89), sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2008/98/EC (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3) (“y Gyfarwyddeb Wastraff”);

gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2014/955/EU (OJ Rhif L 370, 30.12.2014, t.44), sy’n diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC (OJ Rhif L 226, 6.9.00, t.3) (“Penderfyniad y Rhestr Wastraffoedd”);

cydnabod y ffaith bod Cyfarwyddeb 2002/96/EC (OJ L 37, 13.2.2003, t.24) ar Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (“y Gyfarwyddeb CTEG”) wedi ei hail-lunio fel Cyfarwyddeb 2012/19/EU (OJ Rhif L 197, 24.7.2012, t.38);

cydnabod newidiadau mewn terminoleg a wnaed gan Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ar ddosbarthu, labelu a phecynnu sylweddau a chymysgeddau (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t.1) (“y Rheoliad DLPh”).

 At ddiben gweithredu Penderfyniad diwygiedig y Rhestr Wastraffoedd, mae Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd wedi eu dirymu. Pan fo cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny yn codi yn yr offerynnau y mae’r Rheoliadau hyn yn eu diwygio, rhoddir cyfeiriad at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd ei hun, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, yn eu lle.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)) drwy roi cyfeiriad at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd yn lle’r cyfeiriadau at Reoliadau’r Rhestr Wastraffoedd.

Mae rheoliad 3 a’r Atodlen yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Gwastraff  Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy. 138))(“y Rheoliadau Gwastraff Peryglus”).

Mae rheoliad 3(2) yn amnewid y diffiniad o’r Gyfarwyddeb Wastraff sydd yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

Mae rheoliad 3(3) yn diwygio’r diffiniad o Atodiad III i’r Gyfarwyddeb Wastraff yn rheoliad 3(a) drwy hepgor y cyfeiriad at Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny, a hepgorir Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny ei hunan yn rhinwedd rheoliad 3(8).

Mae rheoliad 3(4) yn amnewid y diffiniad o’r Rhestr Wastraffoedd sydd yn rheoliad 4(1). Mae’r diffiniad newydd yn cyfeirio’n uniongyrchol at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae paragraffau (5), (6)(a) a (7)(a) o reoliad 3 yn cywiro cyfeiriad at adran 62A o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p.43).

Mae rheoliad 3(6)(b) yn rhoi cyfeiriad at Erthygl 7(2) o’r Gyfarwyddeb Wastraff yn lle cyfeiriad at Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd.

Mae rheoliad 3(7)(b) yn rhoi cyfeiriad at Erthygl 7(3) o’r Gyfarwyddeb Wastraff yn lle cyfeiriad at Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd.

Mae rheoliad 3(9) a’r Atodlen yn amnewid Atodlen 8 newydd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/675) (“RhTA 2010”).

Mae paragraffau (2), (5)(b) a (7) o reoliad 4, yn diweddaru cyfeiriadau at Erthyglau penodol yn y Gyfarwyddeb CTEG er mwyn cysoni’r cyfeiriadau hynny â’r darpariaethau cyfatebol yn y Gyfarwyddeb a ail-luniwyd.

Mae rheoliad 4(3)(a) yn amnewid cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Wastraff. Er cysondeb â darpariaethau perthnasol eraill, nid yw’r ddarpariaeth a amnewidir yn cyfeirio’n benodol at Reoliad diwygio EU Rhif 1357/2014. Effaith adran 20A o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30)(“Deddf 1978”), fodd bynnag, yw pan fo Deddf sydd wedi ei phasio ar ôl dyddiad cychwyn yr adran honno yn cyfeirio at offeryn yr Undeb Ewropeaidd, fod y cyfeiriad, oni amlygir bwriad i’r gwrthwyneb, yn gyfeiriad at yr offeryn fel y’i diwygiwyd ar y dyddiad y daw’r Ddeddf honno i rym. Mae adran 23(1) o Ddeddf 1978 hefyd yn cymhwyso’r egwyddor honno i is-ddeddfwriaeth. O ganlyniad, effaith yr amnewidiad a wneir gan reoliad 4(3)(a) yw bod cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Wastraff yn RhTA 2010 yn dod yn gyfeiriadau at y Gyfarwyddeb honno fel y’i diwygiwyd ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Mae  rheoliad 4(3)(b) yn rhoi, yn lle’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb CTEG, gyfeiriad at y Gyfarwyddeb honno fel y’i hail-luniwyd.

Mae rheoliad 4(4) yn mewnosod cyfeiriad at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, yn Atodlen 3 o RhTA 2010, drwy roi, yn lle cyfeiriadau at Reoliadau’r Rhestr Wastraff, gyfeiriad at y Penderfyniad hwnnw.

Mae paragraffau (5) a (6) o Reoliad 4 yn rhoi cyfeiriadau at “hazardous substances” yn lle amryw o gyfeiriadau at “dangerous substances”, er mwyn cysoni’r darpariaethau â’r derminoleg a ddefnyddiwyd yn y Rheoliad DLPh.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (O.S. 2011/988) drwy fewnosod cyfeiriad at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, a rhoi, yn lle cyfeiriadau at Reoliadau’r Rhestr Wastraffoedd, gyfeiriadau at y Penderfyniad hwnnw.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 (O.S. 2012/811), drwy roi cyfeiriad at Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd yn lle’r cyfeiriad at Reoliadau’r Rhestr Wastraffoedd yn y diffiniad o “offensive waste”.

Mae rheoliad 7 yn dirymu Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1820 (Cy.148)) a rheoliad 4 o Reoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/971 (Cy.141)).

Ni wnaed asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar fusnesau.


2015 Rhif  1417 (Cy. 141)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015

Gwnaed                               24 Mehefin 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       26 Mehefin 2015

Yn dod i rym                    20 Gorffennaf 2015

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol, yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999([1]) (“DARhLl 1999”)—

(a)     Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)     y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach, yn eu trefn, sy’n briodol yn eu tyb hwy; a

(c)     y cyrff neu’r personau eraill hynny sy’n briodol yn eu tyb hwy.

Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi ymgynghori â’r canlynol, yn unol ag adran 27(2) a (4) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003([2]) (“DGMA 2003”)—

(a)     y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau gwaredu gwastraff yn eu hardaloedd sy’n briodol yn eu tyb hwy;

(b)     y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy’n ymwneud â gweithredu safleoedd tirlenwi yn eu hardaloedd sy’n briodol yn eu tyb hwy; a

(c)     y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli unrhyw bersonau eraill yr effeithir arnynt sy’n briodol yn eu tyb hwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([3]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([4])(“DCE 1972”) mewn perthynas â mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff([5]) ac atal, lleihau a rheoli gwastraff([6]).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o DCE 1972, ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC([7]), y cyfeirir ato yn rheoliadau 2(2), 3(4), 4(4)(a), 5(2) a 6, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o DCE 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, adran 75(8) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990([8]), adran 2 o DARhLl 1999, ac Atodlen 1 iddi, ac adrannau 11, 12 a 13 o DGMA 2003.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf 2015.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

2.(1) Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004([9]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y man priodol, mewnosoder—

“ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw’r rhestr o wastraffoedd a sefydlir gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC sy’n disodli Penderfyniad 94/3/EC sy’n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC sy’n sefydlu rhestr o wastraffoedd peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”.

(3) Yn rheoliad 6(2)(b) (rhwymedigaeth ar awdurdodau gwaredu gwastraff i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau), yn lle “Rheoliadau’r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005” rhodder “y Rhestr Wastraffoedd”.

(4) Yn rheoliad 7(1)(b) (rhwymedigaeth ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau), yn lle “Rheoliadau’r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005” rhodder “y Rhestr Wastraffoaedd”.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

3.(1) Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005([10]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle rheoliad 2(1)(a)([11]) (y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr gwastraff), rhodder—

“(a) ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff([12]) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1357/2014([13]);” .

(3) Yn rheoliad 3(a)([14]) (Atodiad III i’r Gyfarwyddeb Wastraff), hepgorer “, fel y gosodir yr Atodiad hwnnw yn Atodlen 3”.

(4) Yn lle rheoliad 4(1)([15]) (y Rhestr Wastraffoedd), rhodder—

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw’r rhestr o wastraffoedd a sefydlir gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC sy’n disodli Penderfyniad 94/3/EC sy’n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC sy’n sefydlu rhestr o wastraffoedd peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd..

(5) Yn rheoliad 6(b), yn lle “62A(1)” rhodder “62A(2)”.

(6) Yn rheoliad 8—

(a)     ym mharagraff (1)(b), yn lle “62A(1)” rhodder “62A(2)”;

(b)     ym mharagraff (2) (gwastraff penodol sydd i’w drin fel gwastraff peryglus), yn lle “Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” rhodder “Erthygl 7(2) o’r Gyfarwyddeb Wastraff”.

(7) Yn rheoliad 9—

(a)     ym mharagraff (1)(b), yn lle “62A(1)” rhodder “62A(2)”;

(b)     ym mharagraff (2), yn lle “Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” rhodder “Erthygl 7(3) o’r Gyfarwyddeb Wastraff”.

(8) Hepgorer Atodlen 3([16]) (Atodiad III i’r Gyfarwyddeb Wastraff).

(9) Yn lle Atodlen 8 (ffurf ar ateb y traddodai i’r cynhyrchydd neu’r deiliad) rhodder y testun sydd yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010

4.(1) Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010([17]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli: cyffredinol) yn y diffiniad o “WEEE”, yn lle “Article 3(b)” rhodder “Article 3(1)(e)”.

(3) Yn adran 3 (dehongli: Cyfarwyddebau)—

(a)     yn lle’r diffiniad o “the Waste Framework Directive” rhodder—

““the Waste Framework Directive” means Directive 2008/98/EC of the European Parliament and of the Council on Waste([18]);”;

(b)     yn lle’r diffiniad o “the WEEE Directive” rhodder—

““the WEEE Directive” means Directive 2012/19/EU of the European Parliament and of the Council on waste electrical and electronic equipment (WEEE)([19]).”.

(4) Ym mharagraff 1 o bennod 1 o Ran 1 o Atodlen 3, (cyfleusterau esempt: disgrifiadau ac amodau)—

(a)     yn is-baragraff (1), yn y man priodol, mewnosoder—

““List of Wastes” means the list of wastes established by Commission Decision 2000/532/EC replacing Decision 94/3/EC establishing a list of wastes pursuant to Article 1(a) of Council Directive 75/442/EEC on waste and Council Decision 94/904/EC establishing a list of hazardous waste pursuant to Article 1(4) of Council Directive 91/689/EEC on hazardous waste, as amended from time to time;”;

(b)     yn lle is-baragraff (2) rhodder—

“(2) In this Part, a six digit code used to refer to a waste is a reference to the waste specified by the six digit code in the List of Wastes except insofar as the waste in this Part in relation to such a code does not include some of the types of waste specified by the code in the List”.

(5) Yn adran 2 o bennod 3 o ran 1 o Atodlen 3—

(a)     ym mharagraff 1—

                           (i)    yn is-baragraff (3)(e), yn lle “dangerous substance” rhodder “hazardous substance”;

                         (ii)    yn lle is-baragraff (5), rhodder—

“(5) In this paragraph, “hazardous substance” means a substance classified as hazardous as a consequence of fulfilling the criteria laid down in parts 2 to 5 of Annex 1 to Regulation (EC) No 1272/2008 on classification, labelling and packaging of substances and mixtures([20]).”;

(b)     ym mharagraff 11 is-baragraff (3)(c) yn lle “Annex III” rhodder “Annex VIII”; ac

(c)     yn y tabl ym mharagraff 15(2), yn ail golofn y rhes sy’n dechrau “160504*”, yn lle “dangerous substances”, rhodder “hazardous substances”.

(6) Yn adran 2 o bennod 5 o ran 1 o Atodlen 3, yn y tabl ym mharagraff 1(2), yn ail golofn y rhes sy’n dechrau “150202*”, yn lle “dangerous substances” rhodder “hazardous substances”.

(7) Yn Atodlen 12 (cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff)—

(a)     ym mharagraff 2, is-baragraff (1), yn lle “Article 3(b)” rhodder “Article 3(1)(e)”;

(b)     ym mharagraff 3—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “Article 6(1) first paragraph and Article 6(3) and (4)” rhodder “Articles 8(1) to (3) and 9(3)”;

                         (ii)    yn lle is-baragraff (2) rhodder—

“(2) But when interpreting the WEEE Directive for the purposes of this paragraph, ignore the following words in Article 9(3)—

(a) “or the registration referred to in paragraphs 1 and 2”; and

(b) “and for the achievement of the recovery targets set out in Article 11”.”.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011

5.(1) Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011([21]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 3(1) (dehongli), yn y man priodol, mewnosoder—

““the List of Wastes” means the list of wastes established by Commission Decision 2000/532/EC replacing Decision 94/3/EC establishing a list of wastes pursuant to Article 1(a) of Council Directive 75/442/EEC on waste and Council Decision 94/904/EC establishing a list of hazardous waste pursuant to Article 1(4) of Council Directive 91/689/EEC on hazardous waste, as amended from time to time;”.

(3) Yn rheoliad 35(2)(a) (gwybodaeth am wastraff), hepgorer “(England) Regulations 2005 or, as the case may be, the List of Wastes (Wales) Regulations 2005”.

(4) Yn lle paragraff 11(3)(b) o Atodlen 1 (rhaglenni atal gwastraff a chynlluniau rheoli gwastraff), rhodder—

“(b) naturally occurring material falling within the description relating to code 17 05 04 in the List of Wastes.”.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012

6. Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012([22])(gwastraff cartrefi, diwydiannol a masnachol), yn lle paragraff (c) o’r diffiniad o “offensive waste”, rhodder—

“(c) falls within the description relating to code 18 01 04, 18 02 03 or 20 01 99 in the list of wastes established by Commission Decision 2000/532/EC replacing Decision 94/3/EC establishing a list of wastes pursuant to Article 1(a) of Council Directive 75/442/EEC on waste and Council Decision 94/904/EC establishing a list of hazardous waste pursuant to Article 1(4) of Council Directive 91/689/EEC on hazardous waste, as amended from time to time;”.

Dirymiadau

7. Mae’r darpariaethau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)     Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005([23]);

(b)     rheoliad 4 (diwygio Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005) o Reoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011([24]).

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

 

24 Mehefin 2015


SCHEDULE/ATODLEN Regulation/Rheoliad 3(9)

 

SCHEDULE 8/ATODLEN 8

Regulation/Rheoliad 54

Form of consignee’s return to producer or holder/Ffurf ateb y traddodai i’r cynhyrchydd neu’r deiliad

 

Hazardous waste producer returns form

Ffurflen atebion cynhyrchydd gwastraff peryglus

 

 

1.        Consignee details/Manylion y traddodai

Name of consignee/

Enw’r traddodi

 

Postcode/ Cod Post

Consignee hazardous waste i.d. code

Cod adnabod gwastraff peryglus y traddodi

Date/Dyddiad(1)

 

 

 

 

 

 

 

2.        Waste return/ Atebion ynglŷn â gwastraff

Consignment note number

Rhif nodyn traddodi

Date received

Dyddiad dod i law

 

Mode of transport

Cyfrwng clido

 

Frequency of collection

Amlder casglu(2)

Six digit code(s)

Cod(au) chwe digid(3)

 

Hazard code(s)

Cod(au) perygl(4)

Physical form

Ffurf ffisegol(5)

Quantity (kg)

Maint (kg)

Mode of disposal/

recovery

Dull gwaredu/adfer(6)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

(1)Date of submission of the return by the consignee/ Dyddiad cyflwyno’r ateb gan y traddodai.

(2)Where relevant/ Pan fo’n berthnasol.

(3)The six digit code(s) must correspond to the relevant code in the list of wastes. There may be more than one waste stream for each consignment note. All relevant six digit codes must be recorded/ Rhaid i’r cod(au) chwe digid  gyfateb i’r cod perthnasol yn y rhestr o wastraffoedd. Gall fod mwy nag un ffrwd wastraff ar gyfer pob nodyn traddodi. Rhaid cofnodi pob cod chwe digid perthnasol..

(4)Hazard code: the hazard code must correspond to the list below. Each individual six digit code may have more than one hazard code. Each appropriate hazard code for a particular six digit code must be entered. Choose all of the appropriate hazard codes for the particular waste. If a waste contains a substance listed in Annex IV to Regulation (EC) No 850/2004 on persistent organic pollutants, and the concentration limit in that Annex is exceeded, the code “POP” must be recorded/ Cod perygl: rhaid i’r cod perygl gyfateb i’r rhestr isod. Gall pob cod chwe digid unigol gwmpasu mwy nag un cod perygl. Rhaid cofnodi pob cod perygl priodol ar gyfer unrhyw god chwe digid. Dewiswch bob un o’r codau perygl priodol ar gyfer gwastraff penodol. Os yw gwastraff yn cynnwys sylwedd a restrir yn Atodiad IV i Reoliad  (EC) Rhif 850/2004 ar lygryddion organig parhaus, a’r crynodiad yn uwch na’r terfyn uchaf yn yr Atodiad hwnnw, rhaid cofnodi’r cod  “POP”.

 

Hazard code/ Cod perygl

Description/ Disgrifiad

 

 

HP 1

Explosive/ Ffrwydrol

HP 2

Oxidising/ Ocsideiddiol

HP 3

Flammable/ Fflamadwy

HP 4

Irritant – skin irritation and eye damage/ Llidiog –  yn achosi llid ar y croen a difrod i’r llygad

HP 5

Specific Target Organ Toxicity (STOT)/ Aspiration Toxicity/ Gwenwyndra sy’n targedu organ benodol/ Gwenwyndra anadlol

HP 6

Acute Toxicity/ Gwenwyndra aciwt/

HP 7

Carcinogenic/ Carsinogenig

HP 8

Corrosive/ Cyrydol

HP 9

Infectious/ Heintus

HP 10

Toxic for reproduction/ Gwenwynig ar gyfer atgenhedlu

HP 11

Mutagenic/ Mwtagenig

HP 12

Release of an acute toxic gas/ Rhyddhau nwy gwenwynig aciwt

HP 13

Sensitising/ Sensiteiddiol

HP 14

Ecotoxic/ Ecowenwynig

HP 15

Waste capable of exhibiting a hazardous property listed above not directly displayed by the original waste/ Gwastraff a allai amlygu priodwedd beryglus a restrir uchod, nas amlygwyd yn uniongyrchol gan y gwastraff gwreiddiol

POP

Persistent Organic Pollutant/ Llygrydd organig parhaus

 

(5)Physical form: Choose one option from the following list as appropriate.

 Ffurf ffisegol: Dewiswch un opsiwn fel y bo’n briodol o’r rhestr ganlynol

 

Gas/ Nwy

Liquid/ Hylif

Mixed/ Cymysgedd

Powder/ Powdr

Sludge/ Slwtsh

Solid/ Solid

 

 

 

(6) Mode of disposal/recovery or rejected: use the appropriate Dxx/Rxx code for the operation performed on the waste or insert REJ if the waste has been rejected.

Dull gwaredu/ adfer, neu gwrthodwyd: defnyddier y cod Dxx/Rxx priodol ar gyfer y gweithrediad a gyflawnwyd ar y gwastraff, neu mewnosoder REJ os gwrthodwyd y gwastraff.

 

 

Code/ Cod

Disposal operation/ Gweithrediad gwaredu

 

 

D01

Deposit into or onto land/ Dyddodi yn y tir neu arno

D02

Land treatment/ Trin tir

D03

Deep injection/Chwistrellu’n ddwfn

D04

Surface impoundment/ Cronni ar yr wyneb

D05

Specially engineered landfill/ Tirlenwi a beiriannwyd yn benodol

D06

Release into a water body except seas/oceans/ Rhyddhau mewn corff dŵr ac eithrio moroedd/cefnforoedd

D07

Release into seas/oceans including seabed insertion/ Rhyddhau mewn moroedd/cefnforoedd gan gynnwys mewnosod yng ngwely’r môr

D08

Biological treatment not specified elsewhere which results in final compounds or mixtures which are disposed of by any of the operations numbered D01 to D12

Triniaeth fiolegol, nas pennir yn unman arall, sy’n creu cyfansoddion neu gymysgeddau terfynol  a waredir drwy ddefnyddio unrhyw rai o’r gweithrediadau a rifwyd D01 i D12

D09

Physic-chemical treatment not specified elsewhere which results in final compounds or mixtures which are disposed of by any of the operations numbers D01 to D12

Triniaeth ffisegol-gemegol, nas pennir yn unman arall, sy’n creu cyfansoddion neu gymysgeddau terfynol  a waredir gan ddefnyddio unrhyw rai o’r gweithrediadau a rifwyd D01 i D12

D10

Incineration on land/ Hylosgi ar y tir

D11

Incineration at sea/ Hylosgi ar y môr

D12

Permanent storage/ Storio’n barhaol

D13

Blending or mixing prior to submission to any of the operations numbered D01 to D12

Blendio neu gymysgu cyn defnyddio unrhyw rai o’r gweithrediadau a rifwyd D01 i D12

D14

Repackaging prior to submission to any of the operations numbered D01 to D12/ Ailbecynnu cyn defnyddio unrhyw rai o’r gweithrediadau a rifwyd D01 i D12

D15

Storage pending any of the operations numbered D01 to D14 (excluding temporary storage, pending collection, on the site where it is produced).

Storio tra’n aros i gyflawni unrhyw rai o’r gweithrediadau a rifwyd D01 to D14 (ac eithrio storio dros dro, tra’n aros am ei gasglu o’r safle lle’i cynhyrchir).

 

 

 

Recovery operation/ Gweithrediad adfer

 

R01

Use principally as a fuel or other means to generate energy/

Defnyddio’n bennaf fel tanwydd neu ar gyfer dull arall o gynhyrchu ynni

R02

Solvent reclamation/regeneration/

Adennill/atgynhyrchu toddyddion

R03

Recycling/reclamation of organic substances which are not used as solvents (including composting and other biological transformation processes)/

Ailgylchu/adennill sylweddau anorganig nas defnyddir fel toddyddion (gan gynnwys compostio a phrosesau trawsnewid biolegol eraill)

R04

Recycling/reclamation of metals and metal compounds/

Ailgylchu/adennill metelau a chyfansoddion metelau

R05

Recycling/reclamation of other inorganic materials/

Ailgylchu/adennill deunyddiau anorganig eraill

R06

Regeneration of acids or bases/ Atgynhyrchu asidau neu fasau

R07

Recovery of components used for pollution abatement/

Adfer cydrannau a ddefnyddir ar gyfer atal llygredd

R08

Recovery of components from catalysts/ Adfer cydrannau o gatalyddion

R09

Oil refining or other re-uses of oil/ Puro olew, neu ddulliau eraill o ailddefnyddio olew

R10

Land treatment resulting in benefit to agriculture or ecological treatment/

Trin tir mewn ffordd sy’n llesol i amaethyddiaeth, neu driniaeth ecolegol

R11

Use of wastes obtained from any of the operations numbered R01 to R11/

Defnyddio gwastraffoedd a geir o unrhyw rai o’r gweithrediadau a rifwyd R01 to R10

R12

Exchange of wastes for submission to any of the operations numbered R01 to R11/

Cyfnewid gwastraffoedd er mwyn cyflawni arnynt  unrhyw rai o’r gweithrediadau a rifwyd R01 to R10

R13

Storage of wastes pending any of the operations numbered R01 to R12 (excluding temporary storage, pending collection, on the site where it is produced)/

Storio gwastraffoedd tra’n aros i gyflawni unrhyw rai o’r gweithrediadau a rifwyd R01 to R12 (ac eithrio storio dros dro, tra’n aros am eu casglu o’r safle lle’u cynhyrchir)

 

 

 



([1])   1999 p.24.

([2])   2003 p.33.

([3])   Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“DLlC 2006”) caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972  (p.68) (“DCE 1972”) mewn perthynas ag unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi mewn perthynas â’r mater hwnnw neu at y diben hwnnw. Mae paragraff 28(1) o Atodlen 11 i DLlC 2006 yn darparu bob dynodiadau a wnaed o dan adran 2(2) o DCE 1972 yn rhinwedd adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) sydd mewn grym yn union cyn cychwyn y diddymiad o’r is-adran honno gan DLlC 2006 yn parhau i gael effaith ar ôl cychwyn y diddymiad hwnnw fel pe baent wedi eu gwneud yn rhinwedd adran 59(1) o DLlC 2006.

([4])   1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a chan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 a chan O.S. 2007/1388.

([5])   O.S. 2005/850.

([6])   O.S. 2010/1552.

([7])   OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2014/955/EU (OJ Rhif L 370, 30.12.14, t.44).

([8])   1990 p.43.

([9])   O.S. 2004/1490 (Cy. 155) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/1820 (Cy. 148). Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([10])  O.S. 2005/1806 (Cy.138), yr offerynnau perthnasol sy’n diwygio yw O.S. 2011/971 (Cy.141) ac O.S. 2011/988.

([11]) Amnewidiwyd rheoliad 2 gan O.S. 2011/971 (Cy.141).

([12]) OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3.

([13]) OJ Rhif L 365 19.12.14, t.89.

([14]) Amnewidiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2011/971 (Cy.141).

([15]) Fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy.141).

([16]) Amnewidiwyd Atodlen 3 gan O.S. 2011/971 (Cy.141).

([17]) O.S. 2010/675, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([18]) OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3.

([19]) OJ Rhif L 197, 24.7.2012, t.38.

([20]) OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1297/2014 (OJ Rhif L 350, 6.12.14, t.1).

([21]) O.S. 2011/988; yr offerynnau perthnasol sy’n diwygio yw O.S. 2013/755 a 2014/656.

([22]) O.S. 2012/811, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([23]) O.S. 2005/1820 (Cy.148) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy.141).

([24]) O.S. 2011/971 (Cy.141).